Hygyrchedd
Hygyrchedd meddalwedd Delib
Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan yma. Mae'r wefan yma yn cynnwys:
- Meddalwedd sydd wedi’i dylunio ac sy’n cael ei rheoli gan Delib, er enghraifft strwythur cyffredinol ac edrychiad a theimlad y tudalennau.
- Cynnwys sydd wedi'i ychwanegu gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, er enghraifft y rhan fwyaf o'r wybodaeth, gan gynnwys geiriau, lluniau a dogfennau.
Dyw Delib ddim yn rheoli'r cynnwys sy'n cael ei ychwanegu at y wefan yma, ond maen nhw'n datblygu ac yn profi'r feddalwedd i ategu’r canlynol:
- Chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd.
- Gwrando ar y wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin.
Gall cynnwys sydd wedi'i ychwanegu ac nad yw'n gwbl hygyrch gael ei restru ar y tudalen yma fel diffyg cydymffurfio, neu gall manylion gael eu rhoi ochr yn ochr â'r cynnwys anhygyrch.
Mae Delib wedi ymrwymo i wneud y feddalwedd yn hygyrch.
Mae Delib yn profi’r feddalwedd yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.2. Mae gwelliannau i'r feddalwedd yn cael eu rhyddhau'n rheolaidd. Mae unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud yn y feddalwedd fel rhan o'r broses yna yn cael eu profi'n fewnol cyn eu rhyddhau er mwyn cydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe V2.2.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan yma
Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan yma. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y tudalen yma, neu'n credu nad ydyn ni'n cwrdd â gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.