Preifatrwydd
Gwybodaeth Preifatrwydd Delib
Mae meddalwedd Delib (y wefan yma) yn galluogi sefydliadau i osod a gweithredu gweithgareddau, y gallan nhw ymgysylltu â chi drwyddyn nhw.
Mae'r wefan yma yn cael ei rheoli gan y sefydliad rheoli, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Pan fyddwch chi’n cyrchu'r wefan yma ac yn defnyddio'r wefan yma, bydd yr wybodaeth bersonol rydych chi wedi'i chyflwyno i'r gweithgareddau hyn yn mynd i'r sefydliad. Fydd Delib ddim yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol oni bai bod y sefydliad yn gofyn, a dim ond er mwyn helpu’r sefydliad i weinyddu'r wefan yma.
Cyrchu’ch Gwybodaeth Bersonol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau am eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft gofyn am gopi ohoni, neu ofyn iddi gael ei chywiro os ydych chi'n credu ei bod yn anghywir, cysylltwch â'r sefydliad (fel y nodir yn eu Hysbysiad Preifatrwydd / Datganiad Preifatrwydd / Polisi Preifatrwydd nhw). Cyfrifoldeb y sefydliad rheoli yw ateb unrhyw gwestiynau neu geisiadau am eich gwybodaeth bersonol.
Casglu Gwybodaeth Porwr
Mae'r wybodaeth a ddarperir gan eich cyfrifiadur wrth ichi ddefnyddio'r wefan yma yn cael ei chasglu gan Delib. Er enghraifft, eich math o borwr, eich cyfeiriad IP, eich dewis iaith, y wefan sydd wedi’ch cyfeirio chi a'r dyddiad a'r amser. Diben casglu'r wybodaeth yma yw cynnal diogelwch y wefan a gweithredu a gwella'r feddalwedd.